Fisheries
Environment Agency Wales
SALMON AND FRESHWATER FISHERIES ACT 1975
WATER RESOURCES ACT 1991
ENVIRONMENT ACT 1995
ROD AND LINE (SALMON AND MIGRATORY TROUT) BYELAWS 2003
Notice is hereby given that, under the provisions of section 25 of, and Schedule 2 to, the Salmon and Freshwater Fisheries Act 1975, the Environment Agency Wales intends to apply after 6 February 2004 to the Minister for Environment, Planning and Countryside in Wales and the Fisheries Minister at the Department of the Environment, Food and Rural Affairs in England for confirmation of Byelaws made under the Water Resources Act 1991 as amended by the Environment Act 1995 to effect the following changes to the Byelaws governing the regulation of fishing by means of rod and line: 1. Restriction of the salmon season on the lower River Wye tributaries: For those tributaries of the River Wye which join the main river downstream of Llanwrthwl Bridge, the salmon season will end on 17 October. 2. Extension of the salmon season on selected rivers within the West Wales Fisheries District: The salmon and sea trout seasons on the Rivers Tywi, Taf and Eastern and Western Cleddau will be extended to 17 October. During the period 8 October to 17 October inclusive mandatory catch and release restrictions will apply and method restrictions will be relaxed so as to permit spinning. 3. Extension of the salmon and sea trout seasons on the Isle of Anglesey and the Lleyn Peninsula: Bait fishing on Anglesey will be permitted up until 7 November, with fishing by “fly and spin only” then permitted until 17 November. Bait fishing on rivers on the Lleyn Peninsula will be allowed up to 21 October, with fishing by “fly and spin only” then permitted until 31 October. 4. Extension of salmon season on selected North Area rivers: The salmon season will be extended to 31 October on selected stretches of the rivers Conwy, Seiont, Ogwen, Dwyryd and Dyfi. During the period 18 October to 31 October mandatory catch and release restrictions shall apply and method restrictions will be relaxed so as to permit spinning. 5. Relaxation of early- and late-season method restrictions for the River Clwyd: Restrictions on the use of baits or lures for salmon and sea trout fishing on the River Clwyd and its tributaries will be relaxed. Fishing for salmon will be restricted to “fly or spin only” for the period 20 March to 15 June and 1 October to 17 October. Fishing for sea trout will be restricted to “fly or spin only” for the period 20 March to 14 April and 1 October to 17 October. 6. Banning the use of the tailer: The use of a tailer as a means of landing fish will be banned. 7. Revision of list of obstructions with restricted fishing: Fishing will be prohibited in the vicinity of: Dingle Weir on the Afon Cefni; Bontuchel fish pass on the Afon Clywedog; Abergwynant Falls fish pass, Afon Gwynant; Newton Weir, Brecon; and weir on the Afon Llwyd at Pontymoel, Pontypool. Copies of the Byelaws have been deposited at the offices of the Agency at the addresses shown below and will be open to inspection, free of charge, from Monday to Friday during normal office hours from the date of publication of this notice until Friday 6 February 2004. During the same period copies of the Byelaws will be supplied by these offices on demand, free of charge, to any person. Wales Office: Ty Cambria, 29 Newport Road, Cardiff CF24 0TP. North Area: Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4DE. South East Area: Plas Yr Afon, St Mellons Business Park, Fortran Road, St Mellons, Cardiff CF3 0EY. South West Area: Maes Newydd, Llandarcy, Neath, Port Talbot SA10 6HJ. Any person who wishes to object to the confirmation of the above Byelaws must send a written statement of their objection to Mr Alex Ross, Fisheries Policy Branch, Welsh Assembly Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or to Emma Southard, Fisheries Division IIb, Defra, Room 308, Nobel House, 17 Smith Square, London SW1P 3JR, to arrive no later than 6 February 2004 and must send a copy of the statement of objection to The Fisheries Strategy and Policy Advisor, Environment Agency Wales, Ty Cambria, 29 Newport Road, Cardiff CF24 0TP.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Environment Agency Wales
DEDDF EOGIAID A PHYSGODFEYDD DWR CROYW 1975
DEDDF ADNODDAU DWR 1991
DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995
IS-DDEDDFAU GWIALEN A LEIN (EOG A BRITHYLL MUDOL) 2003
Rhoddir rhybudd drwy hyn o dan ddarpariaethau Adran 25 o ac Atodlen 2 i Ddeddf Eogiaid a Physgodfeydd Dwr Croyw 1975, fod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn bwriadu gwneud cais ar ôl yr 6ed o Chwefror 2004 i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yng Nghymru a’r Gweinidog Pysgodfeydd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr am gadarnhad o Is-ddeddfau a wneir o dan Ddeddf Adnoddau Dwr 1991 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 er mwyn gwneud y newidiadau canlynol i’r Is-ddeddfau sy’n rheoleiddio pysgota drwy gyfrwng gwialen a lein. 1. Cyfyngu ar y tymor eogiaid ar lednentydd isaf yr Afon Gwy: Ar gyfer y llednentydd hynny o Afon Gwy sy’n ymuno â’r brif afon i lawr yr afon o Bont Llanwrthwl, bydd y tymor eogiaid yn dod i ben ar yr 17eg o Hydref. 2. Estyn y tymor eogiaid ar rai afonydd yn Ardal Pysgodfeydd Gorllewin Cymru: Bydd y tymhorau eogiaid a brithyll mudol ar Afonydd Tywi, Taf, Dwyrain Cleddau a Gorllewin Cleddau yn cael eu hestyn hyd yr 17eg o Hydref. Yn ystod y cyfnod o’r 8fed o Hydref i’r 17eg o Hydref yn gynhwysol, bydd cyfyngiadau dal a rhyddhau gorfodol mewn grym a bydd cyfyngiadau ar ddulliau yn cael eu lleddfu i ganiatau troelli. 3. Estyn y tymor eogiaid a sewin ar Ynys Môn a Phenrhyn Llyn: Bydd pysgota ag abwyd ar Ynys Môn yn cael ei ganiatau hyd y 7fed o Dachwedd, ac yna caniateir pysgota â phlu a throelli yn unig hyd yr 17eg o Dachwedd. Bydd pysgota ag abwyd ar afonydd Penrhyn Llyn yn cael ei ganiatau hyd y 21ain o Hydref, ac yna caniateir pysgota plu a throelli yn unig hyd yr 31ain o Hydref. 4. Estyn y tymor eogiaid ar rai afonydd yn Ardal y Gogledd: Bydd y tymor eogiaid yn cael ei estyn i’r 31ain o Hydref ar rai darnau o afonydd Conwy, Seiont, Ogwen, Dwyryd a Dyfi. Yn ystod y cyfnod o’r 18fed o Hydref i’r 31ain o Hydref bydd cyfyngiadau dal a rhyddhau gorfodol mewn grym a bydd cyfyngiadau ar ddulliau yn cael eu lleddfu i ganiatau troelli. 5. Lleddfu cyfyngiadau ar ddulliau ar gyfer Afon Clwyd yn gynnar ac yn hwyr yn y tymor: Bydd y cyfyngiadau ar ddefnyddio abwyd a llithwyr (“lures”) wrth bysgota am eogiaid a brithyll mudol ar Afon Clwyd a’i llednentydd yn cael eu lleddfu. Bydd pysgota am eogiaid yn cael ei gyfyngu i bysgota â phlu a throelli yn unig am y cyfnodau o’r 20fed o Fawrth i’r 14eg o Ebrill ac o’r 1af o Hydref i’r 17eg o Hydref. 6. Gwahardd defnyddio cynffonwr (“tailer”): Gwaherddir defnyddio cynffonwr (“tailer”) fel dull o lanio pysgod. 7. Adolygu’r rhestr o rwystrau gyda physgota cyfyngedig: Gwaherddir pysgota yng nghyffiniau: Cored Dingle ar Afon Cefni; Llwybr pysgod y Bontuchel ar Afon Clywedog; Llwybr pysgod Rhaeadr Abergwynant Falls, Afon Gwynant; Cored Newton, Aberhonddu; a’r gored ar Afon Llwyd ym Mhontymoel, Pont-y-pwl. Mae copau o’r Isddeddfau wedi cael eu rhoi yn swyddfeydd yr Asiantaeth yn y cyfeiriadau isod a gellir eu harchwilio yn ddi-dâl o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa arferol o ddyddiad cyhoeddi’r hybysiad hwn hyd Ddydd Gwener y 6ed o Chwefror 2004. Yn ystod yr un cyfnod, bydd copau o’r Is-ddeddfau yn cael eu rhoi gan y swyddfeydd hyn yn ddi-dâl i unrhyw un sy’n gofyn amdanynt. Swyddfa Cymru: Ty Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP. Ardal y Gogledd: Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4DE. Ardal y De Ddwyrain: Plas yr Afon, Parc Busnes Llaneirwg, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0EY. Ardal y De Orllewin: Maes Newydd, Llandarsi, Castell-nedd, Port Talbot SA10 6HJ. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu cadarnhau’r Is-ddeddfau uchod anfon datganiad ysgrifenedig o’u gwrthwynebiad at Mr Alex Ross, Cangen Polisi Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu at Emma Southard, Fisheries Division IIb, Defra, Room 308, Nobel House, 17 Smith Square, London SW1P 3JR, i gyrraedd erbyn yr 6ed o Chwefror 2004 fan hwyraf a rhaid iddynt anfon copi o’r datganiad o wrthwynebiad i’r Ymgynghorydd Strategaeth a Pholisi Pysgodfeydd, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ty Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.