Highways
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 116 AC ATODLEN DEUDDEG
Rhoddir Rhybudd drwy hyn y bydd cais yn cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i Lys yr Ynadon a fydd yn eistedd yn Conway Road, Llandudno am 10 y.b. ar y 19eg dydd o Fawrth 1999, am orchymyn a fydd yn awdurdodi cau, am y rheswm nad oes mo’i hangen, briffordd yng Nghymuned Cerrigydrudion nad yw naill ai’n gefnffordd nac yn ffordd arbennig, ac sy’n cael ei ddisgrifio yn yr Atodlen i’r Rhybudd hwn ac sy’n cael ei ddangos ar y cynllun sy’n cael ei grybwyl isod. Gellir archwilio’r cynllun hwnnw yn ddi-da(r)l, ar bob adeg resymol, yn swyddfeydd y Prif Swyddog Cyfreithiol, Bodlondeb, Conwy, ac fe fydd yn cael ei arddangos ar Hysbysfwrdd y Cyngor Cymuned yn Wal yr Eglwys ar Y Sgw(r)ar, Cerrigydrudion. R. Evans, Ysgrifennydd y Sir (Cyf: HSU/12/BY.) Bodlondeb, Conwy LL32 8DU. Atodlen Y darn 3 metr o led o’r ffordd Dosbarth II ddienw, yng nghymuned Cerrigydrudion, sydd yn dechrau ar ei chyffordd a(r) ffordd y B4501 ar gyfeirnod grid 9587 4934 yr Arolwg Ordnans, ac yn rhedeg i gyfeiriad y de-orllewin am 111 metr at ffens derfyn Hendre-bach ar gyfeirnod grid 9577 4929. Bydd hawliau llwybr troed yn cael eu cadw ar ben de-orllewinol y llwybr, ar gyfeirnod grid 957 492, fel a ddangosir ar y map sydd wedi ei atodi i’r Gorchymyn. Arwynebedd y tir sydd i’w gau, ac na fydd yn ffurfio rhan o’r llwybr troed, ac a fydd yn dychwelyd i’r tirfeddiannwyr cyfagos, yw tua 333 metr sgwa(r)r, ac fe’i dangosir gyda chroeslinellau ar y map hwnnw. Dryddiedig y 28ain dydd hwn o Ionawr, 1999.
