Highways
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
RHYBUDD O WNEUD CAIS I GAU PRIFFORDD
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 116
HYSBYSIR TRWY HYN y gwneir cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’r Llys Ynadon a fydd yn eistedd yn y Llysoedd Barn, Bodhyfryd, Wrecsam ar yr 8fed diwrnod o fis Tachwedd 2007 am 10.00am am Orchymyn i gau rhan o’r briffordd nad yw’n gefnffordd nac yn ffordd arbennig yng Nghymuned Broughton, Wrecsam i draffig am y rheswm ei bod yn ddianghenraid. Disgrifir y briffordd a ddangosir gan groeslinellau du ar y cynllun yn yr Atodiad atodedig. Gellir archwilio’r cynllun yn Neuadd y Dref, Wrecsam yn ystod oriau swyddfa arferol.
ATODIAD
Rhan o briffordd a fabwysiadwyd a leolir i’r de-ddwyrain o gyffordd Allt Capper â Ffordd Wrecsam sydd gerllaw’r eiddo 31 Ffordd Wrecsam, Brynteg yng Nghymuned Broughton sy’n ardal o dir o 160m² a ddangosir gan groeslinellau du ar y cynllun atodedig.
Dyddiedig y 24 diwrnod hwn o September 2007
Trevor Coxon
Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY