Highways

2006-07-07LL111AY-2.99384753.047496LL11 1AYThe County Borough of WrexhamTSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk58038802

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

RHYBUDD O GAIS I GAU PRIFFORDD
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 116

Hysbysir trwy hyn y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwneud cais i’r Llys Ynadon yn y Llysoedd Barn, Bodhyfryd, Wrecsam am 10.00 am ar y 24ain diwrnod o Awst 2006 am Orchymyn i gau’r rhan honno o’r ffordd nad yw’n gefnffordd nac yn ffordd arbennig yng Nghymuned Esclusham, Wrecsam ar gyfer dibenion holl draffig, ar y sail ei fod yn ddianghenraid. Disgrifir y rhan o’r ffordd yn yr Atodiad hwn ac fe’i dangosir gan linell ddu ar y cynllun sy’n atodedig i’r rhybudd y gellir ei archwilio yn Neuadd y Dref, Wrecsam yn ystod oriau swyddfa arferol.
T Coxon, Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth
Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY.
Atodiad
Ardal o dir priffordd mabwysiedig i’w gau wedi’i leoli ar ochr ogleddol yr A5152 Ffordd Wrecsam, Rhostyllen, Wrecsam oddeutu 110 metr o gyffordd yr A5152 Ffordd Wrecsam a Ffordd Henblas. Mae’r tir siâp trapesoid a ddangosir gan linellau du ar y cynllun atodedig oddeutu 63 metr sgwâr ac mae wedi’i leoli rhwng tiroedd blaen 1-4 “Helenfa”, Rhostyllen, Wrecsam a’r briffordd gyhoeddus.
3 Gorffennof 2006.