Town and Country Planning
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
DEDDF CYNLLUNIO (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH 1990
RHYBUDD O AMRYWIAD DYNODIAD ARDAL CADWRAETH OWRTYN, OWRTYN, YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM AC ARDAL CADWRAETH MARFORD, MARFORD YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM
Hysbysir drwy hyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 8 Chwefror 1999 amrywio dynodiad
yr ardaloedd cadwraeth yn Owrtyn a Marford ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn unol ag
Adran 70 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Mae Ardal Cadwraeth Owrtyn nawr yn y cyfan o:
Dark Lane, Dispensary Row, Stryt Fawr, Millwood Rise, Peel Close, Stryt Pen-y-Llan,
Sundorne, Tanner’s Row a Willow Street;
a rhannau o:
Ffordd Bangor, Church Road, Cwrt Bryn-y-Pys, Salop Road, School Lane, Station Road,
Turning Street a Ffordd Wrecsam.
Mae Ardal Cadwraeth Marford nawr yn cynnwys: holl hyd The Spinney oddi ar Springfield
Lane a darnau o Marford Hill a Springfield Lane.
Gellir archwilio cynllun yn dangos union ffiniau’r ardaloedd yn Neuadd y Sir, Wrecsam
neu yn swyddfa’r Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam yn ystod oriau swyddfa/agor
arferol.
Yn rhinwedd yr amrywiad ar ddynodiad yr ardaloedd cadwraeth, ni chaiff adeiladau
o fewn yr aradloedd (ac eithrio eithriadau penodol ar gyfer mathau arbennig o adeiladau)
eu dymchwel heb ganiatâd y Cyngor Bwrdeistref Sirol neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru
a cheir darpariaethau hefyd sydd yn gymwys ar gyfer cadwedigaeth coed o fewn yr ardal
gadwraeth Gallai hefyd fod angen dilyn gweithdrefnau arbennig ar gyfer ceisiadau am
hawl cynllunio ar gyfer datblygu tir o fewn yr ardaloedd cadwraeth. Dylai unrhywun
sydd yn ceisio gwybodaeth fanylach ynglñ ag effaith y dynodiad gysylltu â’r Prif Swyddog
Cynllunio.
B. Edwards, Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y
Dref, Blwch SP 1284, Wrecsam LL11 1WF.
19th Mawrth 1999.